SARPA Logo
   
   Hafan    Amcanion    Cyfarfodydd    Ymuno â ni    Cysylltu â ni    Cylchgrawn   Archif    Trafnidiaeth Cymru     Dolenni    English
 Dolygfa gyrrwr o'r rheilffordd

Llun:- Robert Davies:-"Of Time and The Railway"

    


CROESO I WEFAN SARPA (Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd rhwng Amwythig ac Aberystwyth

Diweddarwyd y tudalen hon ar 30 Awst 2024

SARPA yw'r grŵp defnyddwyr rheilffordd ar gyfer y lein rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Mae'r lein yn rhedeg o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, trwy sir Trefaldwyn i arfordir gogledd Ceredigion, gan derfynu yn Aberystwyth, tref Prifysgol (ac weinyddol) sy'n dod yn fwyfwy pwysig. Ein pwrpas yw cadw ac hyrwyddo'r lein fel bod rhwydwaith cludiant cynaliadwy ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol. SARPA yw un o'r grŵpiau teithwyr rheilffyrdd mwyaf weithgar yng Nghymru ac rydym ni'n cwrdd yn fisol. Rydym ni'n ymgyrchu'n gyson am nifer o faterion o amseroedd ac amlder trenau i gynnal a chadw gorsafoedd. Rydym ni'n croesawu unrhyw sylwadau am y gwasanaeth rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru.

O fis Chwefror 2021, bydd is-gwmni newydd o Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i'r llywodraeth, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu i'r llywodraeth chwarae fwy o rhan mewn darparu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol newydd yr amgylchedd wedi-Covid-19. Gydag ansicrwydd enfawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi'r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog inni reoli gwasanaethau rheilffyrdd wrth inni ddod allan o'r pandemig.

Bydd KeolisAmey dal i chwarae rhan weithredol , yn arbennig yn ardal De Cymru.




Dewch o hyd i ni ar    



NEGES GAN Y CADEIRYDD

Gyda'r toriadau arfaethedig diweddar i wasanaethau ar y Cambrian, mae SARPA yn bwysicach nag erioed. Wedi ymholiadau eang, canfyddais bod Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn Trafnidiaeth Cymru i wneud toriadau heb unrhyw ystyriaeth o bolisiau na dyheadau Llywodraeth Cymru – hynny yw, heb ystyried cymunedau, yr amgylchedd, gallu pobl i gyrraedd eu gwaith, difreintiedigrwydd gwledig, y Gymraeg, Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol ayyb. Yn dilyn llawer o ymgyrchu gan SARPA ac eraill, mae nifer o'r toriadau arfaethedig ar gyfer y Cambrian wedi'u canslo. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ystyried sawl toriad i'r gwasanaethau: peidio â rhedeg gwasanaeth llawn bob awr ar Brif Lein y Cambrian rhwng mis Hydref a mis Chwefror, dileu gwasanaeth cyntaf y diwrnod o Abermaw i Fachynlleth a dileu'r trenau olaf ar lein yr arfordir yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror.

Mae SARPA yn gwrthwynebu torri addewidion, ynysu pobl a chymunedau, gorfodi pobl i symud neu ddysgu gyrru a lleihau buddsoddiad mewn rhai o'r ardaloedd tlotaf yn Ewrop. Rydym hefyd wedi codi pryderon am y Gymraeg, effeithiau ar allu Prifysgol Aberystwyth ac Ysbyty Bronglais i recriwtio, effeithiau amgylcheddol ac effaith andwyol ar y nifer o deithwyr fyddai'n defnyddio'r gwasanaethau sy'n weddill. Am hynny, bydd SARPA yn parhau i ddadlau dros ddileu'r toriadau'n llwyr.

Jeff Smith, Cadeirydd SARPA
Aberystwyth
Gorffenaf 2024






Gallwch chi weld beth ddywedsom ni am y rheilffyrdd yn y gorffenol gan ddilyn y dolen hon i'n tudalen archif. Rydym ni wedi archifo'r holl cylchlythrau nôl i fis Tachwedd 2001




Mae unrhyw barn a fynegir ar wefan SARPA yn barn cyfranwyr ac nid yw o reidrwydd yn cynrychio SARPA ar ei cyfan. Cyhoeddir wybodaeth gyda'r bwriadau gorau, ond ni all SARPA derbyn cyfrifoldeb am unrhyw canlyniadau gwybodaeth diffygiol.

Mae'r lluniau ar y wefan o dan hawlfraint y ffotograffwyr - ni ddylid defnyddio'r rhain heb eu caniatád.

Mae'r webmeistr yn cadw'r hawl i wneud newidiadau.


Noder mai nifer o ddolenni yn cael eu cynnwys yn y testun ar hyd a lled y wefan. Mae'r rhain er lles ein hymwelwyr, er enghraifft wrth esbonio terminoleg y rheilffyrdd. Dydy'r dolenni ddim yn cyfateb i fynegiant barn SARPA ar unrhyw bwnc.


Shrewsbury to Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA)
   c/o Arosfa,   7 Railway Terrace,  Heol y Doll,  Machynlleth,  Powys,  SY20 8BJ  Wales,  United Kingdom
© SARPA 2005-2024
All Rights Reserved
Website:- Angus Eickhoff